Gwybodaeth Clicio a Chasglu

Sut mae'r gwasanaeth clicio a chasglu yn gweithio?

Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw dewis yr eitem yr ydych am ei phrynu a'i hychwanegu at eich bag siopa. Pan ewch i'r dudalen dalu, gellwch ddewis “clicio a chasglu”. Ar y cam hwn gellwch ddewis i ble y byddech chi’n hoffi anfon eich eitem.

I ble y gallaf i anfon fy eitem clicio a chasglu?

Mae ein gwasanaeth clicio a chasglu ar gael ym mannau canlynol y Brifysgol:

Canolfan Chwaraeon Brailsford, Safle Ffriddoedd

Safle Ffriddoedd, Safle Ffriddoedd

Faint o amser fydd yn ei gymryd i ddanfon fy archeb?

Mae'r amser yn dibynnu ar yr eitem, gall eitem cymryd hyd at fis os bydd yn dod gen ein cyflenwyr. Byddwch yn cael e-bost yn eich hysbysu bod eich archeb yn barod i'w chasglu.

Sut allaf i gasglu fy archeb?

Bydd yn ofynnol i chi roi eich rhif archeb unigryw a gaiff ei e-bostio atoch ar ôl i chi archebu. Bydd arnoch angen dangos y cerdyn yr ydych wedi'i ddefnyddio i dalu am eich eitem hefyd, a bydd arnoch angen tystiolaeth o bwy ydych chi e.e. trwydded yrru, pasbort, cerdyn myfyriwr neu staff Prifysgol Bangor. Gofynnir i chi lofnodi i gadarnhau eich bod wedi nôl eich archeb. 

Faint o amser sydd gennyf i nôl fy eitem?

Cewch 5 niwrnod i nôl eich eitem o'r dyddiad y derbyniwch e-bost i ddweud ei bod wedi cyrraedd y man y bu i chi ei ddewis. 

Mannau Casglu 

Canolfan Brailsford, Safle Ffriddoedd 

Mawrth - Gwener   7YB - 9.15YP

Siop Friddoedd , Pentref Ffriddoedd 

Mon - Fri  10am - 9pm
Saturday   12pm - 6pm 
Sunday   12pm - 4pm 

*Please note that these hours may be change on bank holidays, collage days and out of term times. For more information on this please visit the Bangor University Commercial Services web page.

 

Eitemau mwyaf poblogaidd
Arth Graddio

Arth Graddio£17.00