Danfon a Polisi Dychwelyd

 

Danfon

Rydym wedi ymrwymo i ddanfon yr hyn yr ydych wedi ei brynu mor effeithlon â phosibl.

Rydym yn defnyddio'r Post Brenhinol i ddanfon yn y Deyrnas Unedig, a DHL i ddanfon i weddill y byd.

Rhwng dydd Lun a dydd Gwener, ymdrinnir â phob archeb yn feunyddiol, a golyga hyn y danfonir yn y Deyrnas Unedig fel rheol o fewn 14 diwrnod.  Ar oriau brig megis y Nadolig, efallai y bydd yn cymryd yn hwy i ddanfon. SYLWCH na fydd unrhyw archebion yn cael eu prosesu rhwng 22 Rhagfyr ac 2 Ionawr.

Mae danfon i Ewrop fel rheol yn cymryd rhwng 12 ac 16 diwrnod.

Anfonwch e-bost at shop.enquiries@bangor.ac.uk am brisiau ac amserlen danfon eitemau y tu allan i Ewrop.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cludwyr i sicrhau'r gwasanaeth gorau posibl. Os nad ydych chi wedi derbyn pecyn o fewn yr amserlen a nodir uchod, cysylltwch â ni ar shop.enquiries@bangor.ac.uk ac fe wnawn ein gorau i ddatrys y sefyllfa.

Rhaid rhoi gwybod o fewn 24 awr i dderbyn pecyn os ydych am hawlio o ganlyniad i ddifrod i becyn wrth iddo gael ei ddanfon.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am eich nwyddau, e-bostiwch ni ar shop.enquiries@bangor.ac.uk

Polisi Dychwelyd

Polisi Gwaranteb a Dychwelyd
Os nad ydych yn fodlon ar eich nwyddau, dychwelwch hwy atom ni o fewn 28 niwrnod, ac os yw'r nwyddau heb eu defnyddio ac mewn cyflwr digon da i'w hail-werthu, naill ai'n eu cyfnewid neu'n rhoi ad-daliad i chi. Dylech ddychwelyd y nwyddau i Datblygu Busnes, Gwasanaethau'r Campws ac Eiddo, Heol Victoria, Bangor, Gwynedd, LL57 2EN. Byddwn yn prosesu'r nwyddau a ddychwelir gynted ag y byddant yn cyrraedd, heblaw am ar adegau prysur ble bydd oedi byr, o bosib.

Sylwch: 
Wrth ddychwelyd eitem, eich cyfrifoldeb chi yw'r parsel hyd nes y bydd yn ein cyrraedd ni; rydym felly'n awgrymu'n gryf eich bod yn defnyddio gwasanaeth post cofrestredig. Eich cyfrifoldeb chi hefyd yw cost dychwelyd a/neu gyfnewid y nwyddau. Wrth ddychwelyd eitemau yr ydych wedi derbyn unrhyw fath o ostyngiad arnynt, ni fydd y gostyngiad yn berthnasol os dewiswch nwyddau nad oes gostyngiad arnynt.

Rydym yn cadw’r hawl i ganslo eich archeb unrhyw bryd a rhoi ad-daliad.

Ymholiadau

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am eich nwyddau, e-bostiwch ni ar shop.enquiries@bangor.ac.uk. 

Eitemau mwyaf poblogaidd
Arth Graddio

Arth Graddio£17.00