Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau ac Ymwadiad yn ymwneud â gwefan werthu ar-lein Prifysgol Bangor.

Diolch i chi am ymweld â gwefan werthu ar-lein (y wefan) Prifysgol Bangor (PB). Sylwch fod popeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i delerau ac amodau ac ymwadiad y wefan (Telerau ac Amodau ac Ymwadiad y Wefan) a dylech ddarllen y rhain cyn mynd ymhellach. Cymerir yn ganiataol eich bod yn eu derbyn gan eich bod yn pori'r wefan. Diweddarwyd y wefan ddiwethaf ym mis Ionawr 2005.

Hawliau Eiddo Deallusol

Mae pob hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ym mhob ac unrhyw agwedd ar y wefan, yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, ddyluniad, testun, graffeg, ffotograffau, delweddau eraill a sain a'u dewisiad a'u trefn, pob meddalwedd (yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, gasgliadau, codau ffynhonnell blaenorol, a rhaglennigau) a phob deunydd arall ar y wefan hon yn eiddo i Brifysgol Bangor a'i chysyllteion, neu wedi eu trwyddedu i Brifysgol Bangor gan eu darparwyr technoleg a chynnwys, neu ddeiliaid hawliau arall fel y gall PB ddefnyddio'r deunydd fel rhan o'i gwefan.

Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r wefan a'r deunydd a gynhwysir ar y wefan ond fel y nodir isod. Os hoffech wneud unrhyw beth arall gyda'r deunydd yna rhaid ichi gael caniatâd ysgrifenedig perchennog hawliau'r deunydd hwnnw.

Yr hyn y caniateir i chi ei wneud

 1. Cewch gyrchu unrhyw ran o'r wefan.

 2. Cewch gopïo'n electronig ac argraffu copi caled o unrhyw dudalen unigol at eich defnydd personol eich hunan, er mwyn gwneud archeb gyda PB, neu ddefnyddio'r wefan hon fel adnodd siopa, ar yr amod na fyddwch yn gwneud unrhyw beth a nodir o dan 'Yr hyn na chaniateir i chi ei wneud'.

Yr hyn na chaniateir i chi ei wneud

 1. Ni chaniateir i chi gopïo (drwy brintio ar bapur, storio ar ddisg nac unrhyw ffordd arall), ddosbarthu (yn cynnwys dosbarthu copïau), atgynhyrchu, diwygio, addasu, ymyrryd mewn unrhyw ffordd na defnyddio mewn unrhyw ffordd arall y deunydd a gynhwysir ar y wefan heblaw am yr hyn a amlinellir o dan 'Yr hyn y caniateir i chi ei wneud' neu gyda chaniatâd ysgrifenedig PB ymlaen llaw.

 2. Ni chaniateir i chi gopïo na defnyddio unrhyw ddeunydd o'r wefan at unrhyw bwrpas masnachol o gwbl.

 3. Ni chaniateir i chi gopïo, na defnyddio mewn unrhyw ffordd arall, unrhyw hawlfraint, nod masnach na hysbysiad eiddo deallusol arall (p'un ai ydyw'n perthyn i Brifysgol Bangor neu wedi eu trwyddedu i Brifysgol Bangor gan y perchnogion trydydd parti i’w defnyddio ar y wefan) heblaw am yr hyn a amlinellir o dan 'Yr hyn y caniateir i chi ei wneud' heb ganiatâd ysgrifenedig perchennog y nod masnach hwnnw, na/neu ddileu'r rhybuddion hawlfraint, nodau masnach neu hysbysiadau eiddo deallusol a gynhwyswyd yn y deunydd gwreiddiol oddi ar unrhyw ddeunydd a gopïwyd neu a argraffwyd oddi ar y wefan.

Cyfraith lywodraethol a llunio contract

Cewch wneud archebion i Brifysgol Bangor drwy'r wefan er mwyn iddynt hwy werthu i chi unrhyw gynnyrch, ond ni fydd unrhyw gontract yn bodoli rhyngoch chi a Phrifysgol Bangor ar gyfer gwerthu unrhyw gynnyrch i chi oni bai a hyd nes y bydd PB yn cadarnhau manylion eich archeb ac yn rhoi cyfeirnod i chi. Bernir bod y derbyniad hwnnw’n gyflawn, a bernir i bob pwrpas ei fod wedi ei gyfathrebu'n effeithiol i chi ar yr amser y bydd PB yn anfon e-bost atoch (p'un ai ydych yn derbyn yr e-bost ai peidio).

Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fyddwch yn anfon archeb i brynu unrhyw gynnyrch gan Brifysgol Bangor drwy'r wefan, bydd amodau gwerthiant mewn grym o dro i dro sy'n dilyn y telerau a'r amodau hyn. Os bydd unrhyw wrthdaro rhwng telerau o'r fath a thelerau ac amodau'r wefan, yr amodau gwerthiant fydd mewn grym.

O safbwynt unrhyw archeb a roddir dros y ffôn, drwy ohebiaeth, neu yn y cnawd, bydd telerau safonol PB sydd mewn grym o dro i dro yn weithredol i eithrio telerau ac amodau'r wefan a'r amodau gwerthiant.

Gall PB newid heb rybudd unrhyw wybodaeth a arddangosir ar y wefan yn ymwneud â phris ac a yw’r cynnyrch ar gael.

Er mwyn osgoi amheuaeth, bydd unrhyw gontract yn cael ei farnu i fod wedi cael ei gwblhau yn y Deyrnas Unedig. Ymhellach, dehonglir, dadansoddir a gweithredir unrhyw gytundeb yn unol â chyfreithiau Lloegr, ac rydych chi a Phrifysgol Bangor yn cytuno i fod yn ddarostyngedig i awdurdod anghyfyngedig Llysoedd Lloegr.

Ymwadiad

Nid yw’r Brifysgol yn gyfrifol am unrhyw weithred y byddwch yn ei chyflawni o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a geir ar y wefan hon, nac am unrhyw golled na difrod a ddioddefwch o ganlyniad i weithredu fel hyn.

Mae PB yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a geir ar y wefan yn gywir, ond nid ydyw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall nac hepgoriad. Darparu gwybodaeth am Brifysgol Bangor a'r cynnyrch a'r gwasanaethau y mae'n eu cyflenwi yw'r unig reswm dros ddarparu deunydd sydd ar y wefan hon.

Nid yw PB yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth na gwarantiad o unrhyw fath o safbwynt ar y wefan hon na'r deunydd na'r wybodaeth a gynhwysir arni.

Mae'r wefan yn cynnwys cysylltiadau i wefannau allanol. Darperir y cysylltiadau hyn er mwyn eich cynorthwyo i ddod o hyd i wybodaeth bellach yn gyflym ac yn hawdd. Nid yw PB yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn.

Gall PB gywiro unrhyw wall teipograffyddol neu unrhyw wall neu hepgoriad arall mewn unrhyw lenyddiaeth hyrwyddol, dyfyniad neu ddogfen arall yn ymwneud â'r ddarpariaeth heb unrhyw ddyletswydd i'w chwsmeriaid na'i chleientiaid.

Mae PB yn cadw'r hawl i wneud unrhyw newidiadau i delerau ac amodau'r wefan a’r amodau gwerthiant. Drwy bori'r wefan rydych yn derbyn eich bod yn rhwym i delerau ac amodau'r wefan a'r ymwadiad a'r amodau gwerthiant presennol felly dylech wirio'r rhain bob tro rydych yn ail-ymweld â'r wefan.

Manylion a chyfeiriad ein cwmni

Prifysgol Bangor,

Ffordd y Coleg,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG

Amodau gwerthiant

 Gweler telerau ac amodau'r wefan sydd yn rheoleiddio'r defnydd o'r wefan hon. Ni fydd unrhyw amrywiad i'r amodau hyn yn rhwymol oni chytunir yn ysgrifenedig.

Disgrifiad

Cymrwyd pob gofal i ddisgrifio a phortreadu eitemau'n gywir gan ddefnyddio technoleg gyfoes, ond efallai y bydd amrywiadau yn y nwyddau gwirioneddol.

Archebu

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am fethu â chydymffurfio gyda chyfarwyddiadau pendant a nodir ar y wefan hon neu am unrhyw wybodaeth anghywir a ddarperir gan y cwsmer.

Pris

Dyfynnir prisiau yn cynnwys TAW sy'n berthnasol yn y DU. Pan nad yw TAW yn berthnasol caiff y pris ei unioni a chaiff copi o'ch anfoneb heb TAW ei hanfon gyda'ch nwyddau.

Stoc

Ni allwn warantu fod yr holl eitemau ar gael bob amser. Os nad yw rhywbeth mewn stoc yna byddwn bob amser yn rhoi'r wybodaeth orau bosib ar ba bryd y gallwch ddisgwyl i'r eitem gael ei hanfon. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw'r dyddiad danfon yn fwy na 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr archeb. Os nad yw rhan o archeb mewn stoc, rydym fel arfer yn aros hyd nes y bydd pob eitem mewn stoc cyn anfon yr archeb.

Danfon

Rydym wedi ymrwymo i ddanfon yr hyn yr ydych wedi ei brynu mor effeithlon â phosibl.

Rydym yn defnyddio'r Post Brenhinol i ddanfon yn y Deyrnas Unedig, a DHL i ddanfon i weddill y byd.

Rhwng dydd Lun a dydd Gwener, ymdrinnir â phob archeb yn feunyddiol, a golyga hyn y danfonir yn y Deyrnas Unedig fel rheol o fewn 6-7 diwrnod.  Ar oriau brig megis y Nadolig, efallai y bydd yn cymryd yn hwy i ddanfon. SYLWCH na fydd unrhyw archebion yn cael eu prosesu rhwng 22 Rhagfyr ac 2 Ionawr.

Mae danfon i Ewrop fel rheol yn cymryd rhwng 12 ac 16 diwrnod.

Anfonwch e-bost at shop.enquiries@bangor.ac.uk  am brisiau ac amserlen danfon eitemau y tu allan i Ewrop.  Mae'r tâl a godir am anfon eitemau dramor yn amrywio. Gallwn dderbyn archebion o'r rhan fwyaf o gyfeiriadau tramor. Efallai y bydd rhaid i chi dalu trethi mewnforio lleol pan fyddwch yn derbyn yr archeb.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cludwyr i sicrhau'r gwasanaeth gorau posibl. Os nad ydych chi wedi derbyn pecyn o fewn yr amserlen a nodir uchod, cysylltwch â ni ar shop.enquiries@bangor.ac.uk ac fe wnawn ein gorau i ddatrys y sefyllfa.

Rhaid rhoi gwybod o fewn 24 awr i dderbyn pecyn os ydych am hawlio o ganlyniad i ddifrod i becyn wrth iddo gael ei ddanfon.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am eich nwyddau, e-bostiwch ni ar shop.enquiries@bangor.ac.uk

Polisi Gwaranteb a Dychwelyd

Os nad ydych yn fodlon ar eich nwyddau, dychwelwch hwy atom ni o fewn 28 niwrnod, ac os yw'r nwyddau heb eu defnyddio ac mewn cyflwr digon da i'w hail-werthu, naill ai'n eu cyfnewid neu'n rhoi ad-daliad i chi. Dylech ddychwelyd y nwyddau i Datblygu Busnes, Gwasanaethau'r Campws ac Eiddo, Heol Victoria, Bangor, Gwynedd, LL57 2EN. Byddwn yn prosesu'r nwyddau a ddychwelir gynted ag y byddant yn cyrraedd, heblaw am ar adegau prysur ble bydd oedi byr, o bosib.

Sylwch: 
Wrth ddychwelyd eitem, eich cyfrifoldeb chi yw'r parsel hyd nes y bydd yn ein cyrraedd ni; rydym felly'n awgrymu'n gryf eich bod yn defnyddio gwasanaeth post cofrestredig. Eich cyfrifoldeb chi hefyd yw cost dychwelyd a/neu gyfnewid y nwyddau. Wrth ddychwelyd eitemau yr ydych wedi derbyn unrhyw fath o ostyngiad arnynt, ni fydd y gostyngiad yn berthnasol os dewiswch nwyddau nad oes gostyngiad arnynt.

Rydym yn cadw’r hawl i ganslo eich archeb unrhyw bryd a rhoi ad-daliad.

Cyfrifoldeb

Ni fydd cyfrifoldeb cyflawn PB am unrhyw hawliad yn uwch na phrisiau'r nwyddau a gyflenwyd gan Brifysgol Bangor i'r cwsmer. Ni fydd Prifysgol Bangor yn gyfrifol am unrhyw golled ddilynol i'r cwsmer, boed hyn yn codi o dor-dyletswydd yn y contract neu unrhyw ffordd arall.

 Er mwyn osgoi amheuaeth, mae cyfrifoldeb PB am y canlynol: (a) marwolaeth neu niwed personol o ganlyniad i'w hesgeulustod neu esgeulustod ei gweision neu ei hasiantiaid; (b) torri amod teitl neu fwynhad tawel unrhyw nwyddau a gyflenwyd ganddi o dan unrhyw gytundeb, ar log neu ar werth; (c) dan Rhan I Deddf Amddiffyn Defnyddwyr 1987; (d) cam-gynrychiolaeth twyllodrus neu (e) mewn cysylltiad ag unrhyw gyfrifoldeb na fyddai, dan y gyfraith, yn cael ei eithrio neu ei gyfyngu; nid yw'n cael ei eithrio na'i gyfyngu yn y cytundeb hwn, hyd yn oed os yw unrhyw delerau eraill yn y cytundeb yn awgrymu'n wahanol.

 Taliad

Rhaid gwneud taliadau wrth archebu, ac maent yn daladwy drwy gerdyn debyd/credyd.

 Oedi

Ni fydd PB yn gyfrifol, nac yn cael ei barnu i fod yn torri'r cytundeb, os bydd oedi wrth weithredu, neu fethiant i weithredu, unrhyw un o'i hymrwymiadau yn gysylltiedig â'r nwyddau, os rhywbeth y tu hwnt i'w rheolaeth resymol hi sydd wedi achosi’r oedi neu'r methiant.

 Cynrychiolaeth

Nid yw'n gweithwyr na'n asiantiaid wedi eu hawdurdodi i wneud unrhyw gynrychiolaeth ynglyn â'r nwyddau oni bai fod PB wedi cadarnhau hyn yn ysgrifenedig. Os ydych yn mynd i gytundeb rydych yn cydnabod nad ydych yn dibynnu ar unrhyw gynrychiolaethau nad ydynt wedi eu cadarnhau.

Eitemau mwyaf poblogaidd
Arth Graddio

Arth Graddio£17.00